Ardd y Pentref – Village Garden

Mae Pwyllgor Lles Llangrannog wedi dechrau ar y gwaith o adnewyddu Gardd y Pentre sydd wedi’i lleoli rhwng capel Bancyfelin a rhaeadr Y Gerwn.

Dyn ni eisoes wedi codi dros £2,000 ac wedi derbyn grant gan Gyngor Sir Ceredigion i gefnogi’r gwaith. Ein nod yw codi £8000 a’n gobaith yw cael eich help chi i wireddu’r freuddwyd hon.

Cafodd cynllun yr ardd ei greu gan Gail Robinson, person lleol sy’n arbenigo mewn gerddi. Roedd hyn yn dilyn ymgynghoriad ymhlith aelodau o’r gymuned. Teifi Landscaping sy’n gwneud y gwaith. Bydd llinellau o farddoniaeth Cranogwen yn cael eu hymgorffori yn y llawr carreg newydd. Yn y cynllun hefyd, gallwch weld mynedfa newydd mwy diogel a lleoedd i blannu planhigion o bob math.

Crewyd yr ardd yn 19…., ac yn ystod y blynyddoedd diwetha mae’r ardd wedi cael ei chynnal gan nifer o arddwyr ac adeiladwyr lleol. Bydd y cynllun newydd yn cadw rhai agweddau o’r ardd wreiddiol fel y waliau llechi ond bydd y datblygiad newydd yn lleoliad perffaith ar gyfer cerflun Cranogwen, ein harwres leol. Dyn ni’n gweithio mewn cydweithrediad â Thîm Prosiect Cymunedol Cranogwen a Monumental Welsh Women.

Y gobaith hefyd yw casglu digon o arian i ddarparu byrddau gwybodaeth am fywyd a gwaith Cranogwen a hefyd dathlu gwaith caled nifer o bentrefwyr yn yr ardd dros y blynyddoedd.

Llangrannog Welfare Committee have begun work on renovating the beloved Village Garden, located between Banc-y-Felin chapel and Y Gerwn waterfall.

We have already raised over £2,000 and have won a grant from Ceredigion County Council to support the work. We aim to raise another £8,000 and hope you can help us realise this dream.

The garden design shown was created by local garden expert Gail Robinson following consultation with community members. Work is being done by Teifi Landscaping. The design incorporates some of Cranogwen’s poetry, which will be set into the new stone floor. The plan shows a new, safer entrance, new planters and space for hardy, annual plants.

Built in the early 1900s, the garden has been further developed and maintained by successive local gardeners and builders. The new design aims to preserve aspects of the garden such as the original slate walls, and build on it to provide a perfect site for a statue of Cranogwen, our local heroine. We are working in partnership with the Cranogwen Community Monument team and Monumental Welsh Women to bring this idea to life.

We also hope to have enough money to provide information boards to illustrate Cranogwen’s life and importance, as well as celebrate the hard work of many villagers in the garden over the years.