Talwrn Cranogwen

Dydd Mawrth, 8 Mawrth, 2022 | 19:30 – 21:00
Neuadd Pontgarreg

I ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched cynhelir Talwrn arbennig yn Neuadd Pontgarreg.

Pa ffordd well o gydnabod llwyddiant ein harwres Cranogwen? Y ferch gynta’ erioed i ennill gwobr farddonol yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac un oedd yn annog merched eraill i ddarllen ac ysgrifennu.
Y Meuryn gwadd yw Mererid Hopwood a’r ddau dîm fydd yn ymryson yw Tîm Crannog V Merched Hawen. Idris Reynolds fydd y Capten ar fwrdd Tîm Crannog a Mari George fydd yn llywio Merched Hawen.

Dewch draw am noson arbennig. Mi fydd Radio Cymru yn recordio’r noson ar gyfer ei darlledu.

To celebrate International Women’s Day a Welsh language poetry evening will be held at Neuadd Pontgarreg. A fitting tribute to Cranogwen the first female to win a poetry prize at the National Eisteddfod. Radio Cymru will be recording the competition for broadcast.