Mae’r cerflunydd Sebastien Boyesen wedi ei gomisiynu i greu cerflun ffigurol o Sarah Jane Rees, a oedd yn cael ei hadnabod wrth ei henw barddol Cranogwen, fydd yn cael ei osod yn Llangrannog, gorllewin Cymru.

Datganiad i’r Wasg : 1.12.21

Mae ymgyrch Monumental Welsh Women (MWW) mewn partneriaeth â mudiad Cerflun Cymunedol Cranogwen Community Monument (CCCCM), is-grwp o Bwyllgor Lles Llanrannog yn falch iawn i gyhoeddi y byddant yn gweithio gyda’r cerflunydd clodwiw Sebastien Boyesen i greu cerflun ffigurol maint person o Sarah Jane Rees (1839 – 1916), a oedd yn cael ei hadnabod yn fwy aml wrth ei henw barddol sef Cranogwen. Dyma’r trydydd cerflun i’w gomisiynu gan MWW o ‘fenyw go iawn’.

 

Ganwyd Cranogwen ym mhlwyf Llangrannog yn 1839. Morwr, athrawes, bardd, newyddiadurwraig, pregethwraig ac ymgyrchydd; gwelwyd hi ar restr fer Merched Mawreddog oherwydd iddi arloesi yn y meysydd yma, sy’n fwy trawiadol byth wrth ystyried y cyfnod bu’n byw ynddo. Ceir bywgraffiad byr ohoni ar wefan Merched Mawreddog

 

Y cerflunydd Sebastien Boyesen, a fu’n gyfrifol am ddarparu’r cerflun o Sant Carannog i’r gymuned, bydd yn bwrw ymlaen gyda’r comisiwn mawreddog hwn. Fel cerflunydd cyfoes sy’n byw ac yn gweithio yn Llangrannog, mae gan Boyesen bortffolio eang o phrofiad helaeth o ddylunio a gosod gwaith celf cyhoeddus ledled y Deyrnas Unedig. Roedd Boyesen wedi creu argraff ar MWW gyda’i ymchwil bersonol ystyriol ar sut i gynrychioli Cranogwen mewn cyd-destun hanesyddol, cymdeithasol a gweledol, ynghyd a’i brofiad a’i allu i ddatblygu cerflun ffigurol addas fel cofeb parhaol o bwys i Cranogwen.

 

Mi fydd y cerflun hir ddisgwyliedig yn cael ei leoli yng nghanol Llangrannog, gyferbyn â ble claddwyd Sarah Jane Rees ym mynwent yr Eglwys. Bydd y ceflun yn coffáu bywyd anhygoel Cranogwen a’i chyrhaeddiadau niferus er gwaethaf y gwrthwynebiad eang yn erbyn menywod yn gweithio y tu allan i’r cartref a’r cyfleoedd cyfyngedig oedd ar gael iddynt ar ddiwedd y 19eg a dechrau’r 20fed ganrif. Mae Boyesen a’r cyfranwyr niferus i’r prosiect wedi bachu ar y cyfle i greu gwaith cyfoes ystyriol i ddathlu Cranogwen a’i bywyd anhygoel.

 

I gydnabod Cranogwen, a fu’n annog talentau menywod eraill ymhlith cyflawniadau amrywiol ei gyrfa, mae MWW wedi creu partneriaeth gyda Lisa Evans, Cyfarwyddwr Rhaglen y radd anrhydedd mewn Cerflunio yn Ysgol Gelf Caerfyrddin, Coleg Sir Gâr, i ddyfarnu mentoriaeth â thâl am flwyddyn i gerflunydd benywaidd addawol i weithio gyda Boyesen ar y comisiwn hwn. Gan ddechrau yn Rhagfyr 2021, mae’r rhaglen unigryw yma wedi ei chynllunio i ddarparu cefnogaeth i gerflunydd benywaidd yn y cyfnod rhwng addysg a bywyd proffesiynol. Wrth weithio gyda Boyesen ar y comisiwn hwn, mi fydd yr egin gerflunydd yn derbyn arweiniad proffesiynol a phrofiad go iawn wrth ddatblygu ei hymarfer drwy weithio ar gomisiwn byw fydd i’w weld mewn lle cyhoeddus.

 

Mae’n fraint cyhoeddi y bydd Keziah Ferguson yn derbyn y cyfle ar ôl graddio o Goleg Sir Gâr. Yn ddiweddar mae Keziah wedi arddangos angerdd ac uchelgais i ddatblygu ei gyrfa fel cerflunydd. Meddai Keziah

“Mae’n anrhydedd i fod yn rhan o’r prosiect yma a chael y cyfle i ddathlu gwaddol Cranogwen. Ar ôl cael croeso cynnes yn Llangrannog, rwyf yn hynod o gyffrous i ddechrau gweitho gyda Seb a’r tîm.”

 

Dywedodd Helen Molyneux o Monumental Welsh Women,

“Rydym wrth ein boddau i fedru cyhoeddi comisiynu ein trydydd cerflun o fenyw Gymreig go iawn. Roedd Cranogwen yn fenyw ysbrydoledig ac ymledodd ei henw da a’i dylanwad nid yn unig ledled Cymru ond yn rhyngwladol, ar adeg pan yn anaml y byddai llawer o ferched yn gadael eu pentrefi genedigol . Hwn fydd y trydydd cerflun wedi ei gomisiynu gan y prosiect Monumental Welsh Women i ddathlu cyflawniadau arwresau cudd Cymru – y menywod y mae eu cyfraniadau i fywyd a diwylliant Cymru wedi cael eu hanwybyddu i raddau helaeth oherwydd y cyfnod y cawsant eu geni ynddo. Y cerflun cyntaf yw o brifathrawes ddu gyntaf Cymru, Betty Campbell, a gafodd ei ddadorchuddio yng Nghaerdydd ym mis Medi. Bydd yr ail, o Elaine Morgan, y damcaniaethwr a’r dramodydd esblygiadol, yn cael ei ddadorchuddio yn Mountain Ash yn yr hydref.

 

Ychwanegodd Anne-Marie Bollen, aelod o CCCCM,

“Ein nod yw dathlu uchelgais a llwyddiant ein harwres leol arloesol Cranogwen a choffáu ei bywyd a’i chyflawniadau i ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol.”

 

Nododd Sebastien Boyesen am y comisiwn,

“Mae cael fy nghomisiynu i greu cerflun Cranogwen yn anrhydedd ac yn fraint ac yn rhywbeth y byddaf yn ei ystyried yn uchafbwynt fy ngyrfa. Edrychaf ymlaen at ddatblygu’r gwaith gyda’n tîm anhygoel gan gynnwys gweithio gyda Keziah fel egin cerflunydd, a gobeithio y gallaf ad-dalu’r ymddiriedaeth a roddwyd ynof trwy greu gwaddol rhyfeddol i’r pentref a’r gymuned ehangach sy’n dathlu cyflawniadau menyw ysbrydoledig o Gymru.”

 

Os hoffech wybod mwy am y prosiect neu gyfrannu ato croeso i chi ymweld â thudalen Cerflun Cymunedol Cranogwen Community Momument.

 

-DIWEDD-

 

Nodiadau i’r Golygydd

 

Sebastien Boyesen, Cerflunydd :

Mae Sebastien Boyesen wedi gweithio fel arlunydd a dylunydd ers dros dri deg pump o flynyddoedd. Mae e wedi ymrwymo i greu gweithiau celf sy’n benodol i le o fewn datblygiadau newydd a chynlluniau adfywio. Ei arfer yw archwilio cymunedau a’u tirwedd, gan dynnu sylw at y berthynas rhwng unigolion, cymdeithas a’u cofebion. Gan ddefnyddio ystod amrywiol o dechnegau cerfluniol, mae ei waith bob amser yn sensitif i’w amgylchedd ac yn aml wedi’i greu yn sgil ymgysylltu gyda’r cymunedau sy’n byw ac yn gweithio yn agos at leoliad ei weithiau celf.

 

Mae Boyesen yn byw yn Llangrannong, gorllewin Cymru ac wedi gweithio ar sawl prosiect cerfluniol lle-benodol gan gynnwys Gwarcheidwad a gomisiynwyd i goffáu hanner canmlwyddiant trychineb mwyngloddio 1960 yn Six Bells a hawliodd fywydau 45 o ddynion. Mae’r cerflun anhygoel yn sefyll 20 metr uwchben safle’r hen lofa lle digwyddodd y drasiedi ac mae’n deyrnged addas i’r dynion sydd â’u henwau wedi’u torri i’r paneli o gwmpas y gofeb. Mae’r Dyn Siartredig 7.2m wedi’i wneud o ddur gwrthstaen a’r Llusern wedi’i leoli yn y Coed Duon a This Little Piggy a Chofeb y Llynges Fasnachol yng Nghasnewydd ond yn ambell enghraifft o’i waith.

 

 

Monumental Welsh Women :

Sefydliad nid er elw yw Monumental Welsh Women sy’n ymroddedig i gydnabod cyfraniad menywod i hanes a bywyd Cymru. Ar hyn o bryd un cerflun o Gymraes go iawn sydd yng Nghymru – dim ond un! – ers dadorchuddio Betty Campbell ym mis Medi. Rydym yn gweithio i newid hyn. Ein cenhadaeth yw codi 5 cerflun yn anrhydeddu 5 o Cymraes mewn 5 lleoliad gwahanol o amgylch Cymru mewn 5 mlynedd. Mae’n her enfawr. Gellir gweld proffiliau’r 5 merch gyntaf yr ydym am eu coffáu, a gwybodaeth am ein hymgyrch, ar ein gwefan www.monumentalwelshwomen.org.  Dyma nhw:

 

Cranogwen

Betty Campbell

Arglwyddes Rhondda

Elaine Morgan

Elizabeth Andrews

 

Mae Monumental Welsh Women yn gweithio mewn partneriaeth âg ymgynghorwyr celf a churadu annibynnol Studio Response, sy’n comisiynu gweithiau unigryw sy’n ymateb i safleoedd yn y parth cyhoeddus.

 

Cerflun Cymunedol Cranogwen Community Monument :

Mae Cerflun Cymunedol Cranogwen Community Monument (CCCCM) yn is-grŵp o Bwyllgor Lles Llangrannog Welfare Committee yn Llangrannog.

Keziah a Seb

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

I accept that my given data and my IP address is sent to a server in the USA only for the purpose of spam prevention through the Akismet program.More information on Akismet and GDPR.

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.